Rhannu car (a elwir hefyd yn rhannu lifft a nifer o bethau eraill) yw pan fo dau neu ragor o bobl yn rhannu car ac yn teithio gyda'i gilydd. Mae'n galluogi unigolion i fanteisio ar hwylustod car ac, yr un pryd, yn lleihau costau a'r problemau sy'n codi o dagfeydd a llygredd.
Mae diogelwch ein haelodau'n flaenoriaeth ac rydym wedi gwneud ein gwefan mor ddiogel ag y gallwn. Cedwir manylion aelodau'n ddiogel yn y basdata a dim ond gwybodaeth am ddarpar deithiau all aelodau eraill eu gweld.
Pan ddaw i deithio, mae pob aelod yn gyfrifol am ei ddiogelwch ei hunan. Fodd bynnag, rydym yn argymell aelodau i ddilyn rhai arferion diogeledd syml sy'n cael eu hamlinellu isod:
Os cewch unrhyw drafferth, ffoniwch ni ar (+44) (0)1603 389321 (Oriau swyddfa: Llun-Gwener, 8.45-5.15) a byddwn yn ceisio eich helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau fod gan eich cyd-deithydd yr holl ddogfennau cyfreithiol angenrheidiol megis trwydded yrru, yswiriant car, MOT a threth car.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth ynghylch diogelwch a diogeledd personol ar ein Telerau ac Amodau ac yn ein Polisi Preifatrwydd
Gallwch rannu car ar unrhyw un o'ch teithiau - mynd i'r gwaith, gwneud y siopa wythnosol, mynd â'r plant i'r ysgol, mynd i'r gêm ar y penwythnos, teithio i ŵyl, digwyddiad neu sioe, mynd yn ôl ac ymlaen o brifysgol, ymweld â ffrindiau neu fynd i'r maes awyr - cofnodwch eich taith ar ein system a dechrau chwilio am gyd-deithydd.
Yn aml, gall teithio mewn pâr neu grŵp fod yn fwy o hwyl ac yn well i unigolion, y gymuned a'r amgylchedd. Mae sawl rheswm dros hyn:
Mae sawl achlysur pan all teithio mewn pâr neu grŵp fod yn well i unigolion, y gymuned a'r amgylchedd. Mae rhai enghreifftiau nodweddiadol isod:
Rydym yn awgrymu fod gyrrwyr a theithwyr yn rhannu costau tanwydd. Cofiwch nad ddylai gyrrwr wneud elw o rannu car gan y gallai hynny, yn y rhan fwyaf o wledydd, diddymu eu hyswiriant a'u treth. Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â'ch cwmni yswiriant yn uniongyrchol.
Mae'r rhan fwyaf o yswirwyr yn dweud na fydd rhannu car yn effeithio ar yswiriant car unigolion, e.e. mae Cymdeithas Yswiriwr Prydain yn datgan yn glir nad fydd rhannu car yn effeithio ar yswiriant ei aelodau cyn belled na wneir elw wrth rannu:
"Rhoi lifft - mae pob un o yswirwyr car Cymdeithas Yswirwyr Prydain wedi cytuno na effeithir ar eich yswiriant os bydd eich cyd-deithwyr yn cyfrannu at gostau rhedeg eich car cyn belled â bod y car yn dal wyth o deithwyr neu lai. Nid yw'r cytundeb hwn yn berthnasol os ydych yn gwneud elw ar gyfraniadau neu os mai cario teithwyr yw eich busnes." (Ffynhonnell: gwefan Cymdeithas Yswirwyr Prydain, 2008)
Dylai gyrwyr gydag unrhyw bryderon gysylltu gyda'u cwmnïau yswiriant gan y gallai fod gan wahanol gwmnïau wahanol delerau ac amodau ar wahanol gyfnodau.
Os ydych yn dymuno cysylltu â'ch cwmni yswiriant ynghylch eich polisi personol gallwch ddefnyddio ein templed llythyr.
Llofnodwch ar y system Liftshare a chwiliwch am bâr!
Ffordd arall o gymryd rhan yw sefydlu grŵp rhannu car ar gyfer eich cwmni, cymuned neu sefydliad. I ganfod rhagor ewch i www.liftshare.com/business
Na, mae llawer o bobl yn fodlon cynnig lifft yn gyfnewid am rannu costau tanwydd. Gallwch gofrestru eich cais am lifft ar rwydwaith Liftshare os nad oes gennych gar.
Pan fyddwch yn cychwyn ar drefniant newydd rhannu car rydym yn argymell eich bod yn cyfarfod eich cyd-deithydd mewn man cyhoeddus, ger rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus os yn bosibl, fel y gallwch deithio ryw ffordd arall pe na byddai'r trefniadau'n gweithio. Rydym yn argymell na ddylai aelodau gyfarfod yn eu cartref y tro cyntaf, am resymau diogeledd.
Llwyddodd degau o filoedd o aelodau ganfod cyd-deithwyr ac mae ein meddalwedd wedi'i ddylunio i nodi pob ffordd bosibl i'ch cael o A i B.
Fodd bynnag, os ydych yn cael trafferth canfod cyd-deithydd, rydym yn awgrymu eich bod yn ceisio cael un am ran o'ch taith a defnyddio cludaint cyhoeddus ar gyfer y gweddill.
A chofiwch - y mwyaf o aelodau sydd gennym, y mwyaf o gyfle sydd gennych chi o ddiwallu eich anghenion. Felly cofiwch sôn wrth eich ffrindiau am y wefan hon a'u cael i gofrestru eu teithiau!
Na, bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gadw'n gudd ac ni all unrhyw aelod arall ei weld yn unman ar y safle. Anfonir a derbynnir negeseuon drwy'r ganolfan negeseuon ar ein gwefan.
Gallwch chwilio am gyd-deithiwr neu daith yn hollol rad ac am ddim ar Liftshare. Fodd bynnag, rydym yn awgyrymu y dylai rhannwyr ceir gymryd eu tro i yrru neu y dylai gyrrwyr a theithwyr rannu cost pob taith. Ni ddylai gyrrwyr ddefnyddio rhannu car fel ffordd o wneud elw.
Ar ol canfod cyd-deithydd neu daith addas, dylech gysylltu (i gytuno ar amser a lle i gyfarfod) drwy anfon 'cais i rannu' o'ch cyfrif neu drwy ffonio os oes rhif ffôn ar gael. Pan fyddwch yn profi trefniant rhannu car am y tro cyntaf, rydym yn argymell i chi beidio â chyfnewid cyfeiriadau gartref (am resymau diogeledd) ac rydym yn cynghori aelodau i gyfarfod yn gyntaf mewn mannau cyhoeddus, megis gorsafoedd rheilffordd neu oraf bysiau er mwyn gallu mynd a dod yn rhwydd pe na byddai'r trefniadau teithio'n gweithio.
Dim ond gwasanaeth cydweddu teithiau yw Liftshare ac ni ellir ein dal yn gyfrifol am unrhyw daith na lwyddodd yn ôl y disgwyl. Felly hefyd, nid oes gan y gyrrwyr a'r teithwyr sydd wedi cofrestru eu taith gyda ni unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol at eu cyd-deithwyr nag i Liftshare i wneud unrhyw daith.
Fodd bynnag, byddem yn gobeithio, os yw cynlluniau'n newid ac na ellir gwneud taith, y cysylltir â phawb sy'n cael eu heffeithio mewn da bryd. Rydym hefyd yn argymell y dylai cyd-deithwyr drefnu cyfarfod yn agos at ganolfan trafnidiaeth cyhoeddus fel, os nad yw'r trefniadau'n gweithio, gall teithwyr deithio mewn ffordd arall i gyrraedd pen eu taith mewn pryd.
Ydyw, gallwch ddewis 'dynion yn unig' neu 'merched yn unig' drwy ein chwiliad uwch.
I ddiddymu eich aelodaeth mewngofndwch ar eich cyfrif a chliciwch ar dudalen 'Fy Ngosodiadau' a dewis 'Tynnu fy nghyfrif o'r system'. Bydd eich manylion yn cael eu tynnu o'r basdata ar unwaith.
Fodd bynnag, os ydych yn diddymu eich cyfrif gan nad ydych bellach yn gwneud y daith a gofrestrwyd, gallech ddiweddaru eich manylion ar gyfer taith newydd neu ddefnyddio eich cyfrif i ganfod rhannwyr ceir ar gyfer teithiau unigol yn hytrach na diddymu'r cyfan o'ch cyfrif.
Hefyd, os nad ydych wedi llwyddo i ganfod cyd-deithydd ar gyfer eich taith, peidiwch â rhoi'r gorau iddi. Mae gennym filoedd o aelodau'n ymuno ac yn cofrestru eu teithiau bob mis felly mae'n werth cadw'ch dewisiadau ar agor ac edrych ar eich cyfrif bob tua mis neu ddau i weld beth sydd wedi'i gofrestru o'r newydd.
I olygu unrhyw un o'ch manylion personol, megis eich cyfeiriad e-bost diofyn neu gyfrinair, cliciwch ar Fy Ngosodiadau. Gallwch newid eich manylion yn ôl y gofyn a bydd y cofnodion ar ein basdata'n cael eu diweddaru'n awtomatig.
Grŵp Cyfyngedig Preifat yw grŵp sydd wedi'i greu ar gyfer sefydliad ac ar gyfer rhai pobl yn unig. Cyfyngir ar yr aelodau sy'n gallu ymuno â'r grwpiau hyn gan un ai gyfeiriadau ebyst, cyfeiriadau Darparydd Rhyngrwyd (o gyfrifiaduron gweithle'n unig) neu Gyfrinair. Golyga bod yn rhan o Grŵp Cyfyngedig Preifat mai dim ond ymysg aelodau eraill o'r un grŵp y byddwch yn chwilio i ddechrau, gallwch ymestyn eich chwiliad ar ôl hynny yn ôl y gofyn. Gall bod yn rhan o Grŵp Cyfyngedig Preifat hefyd olygu eich bod yn rhan o Grŵp Cyhoeddus gan fod y rhan fwyaf o grwpiau preifat yn rhan o grwpiau cyhoeddus rhanbarthol. Dim ond pobl yn yr un grŵp â chi fydd yn gallu gweld eich teithiau oni bai eich bod chi'n dewis yn wahanol.
Gall unrhyw un ymuno â grŵp cyhoeddus, does dim cyfyngiadau. Yn aml, mae yna gynlluniau rhanbarthol, megis CarshareDevon.com, y gall unrhyw un yn yr ardal eu defnyddio'n rhad ac am ddim.
Gallai eich cyfrif fod wedi'i ychwanegu at Grŵp Cyhoeddus am sawl rheswm. Efallai nad oedd eich cyfeiriad neu eich cyfrinair yn cydweddu â gofynion dod yn rhan o'r Grŵp Cyfyngedig Preifat roeddech yn ceisio dod yn aelod ohono.
neu
Efallai bod cysylltiad rhwng eich Grŵp Cyfyngedig Preifat a Grŵp Cyhoeddus sy'n golygu'n syml fod eich Grŵp Cyfyngedig Preifat wedi'i sefydlu fel rhan o grŵp arall. Mae hyn yn rhoi mwy o ddewisiadau chwilio i chi pe byddech eu hangen. Ni fydd eraill yn y grŵp cyhoeddus heb gyfyngiad hwn yn cysylltu â chi oni bai eich bod yn ymestyn manylion chwilio eich taith. Byddwch ar eich ennill pe byddai'r Grŵp Cyhoeddus yn cynnig cymhellion / cystadlaethau ayb.
neu
Efallai eich bod wedi gadael y sefydliad roeddech yn rhan ohono wrth ymuno gyntaf ac, o'r herwydd, gallai Rheolwr Rhannu Car y cynllun hwnnw fod wedi eich tynnu o'r grŵp, gan adael eich manylion yn awtomatig ar y System Genedlaethol.
Are you having problems viewing/using our site? Please follow this link for some helpful advice.
Our site uses cookies to tell us who you are. Follow this link for more information about the cookies we use.
Mae Liftshare.com yn hollol rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ac yn ei gwneud yn hawdd rhannu unrhyw daith mewn car. Gallwch hefyd ddefnyddio Liftshare.com i ganfod BUDi i rannu taith beic, tacsi neu gerdded.
MyBUDi yw brand rhyngwladol Liftshare.